English | Welsh

Eglurwch Alcohol

Nod yr ymgyrch yma ydy ceisio mynd ati i ostwng faint o alcohol mae pobl ifainc yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn ei yfed. Un o’r pethau hynny sy’n dylanwadu fwyaf ar bobl ifainc ydy’r ffordd mae rhieni’n defnyddio alcohol a ph’un ai eu bod nhw’n sôn am y peth i’w plant. Yn ddiweddar, mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi cyhoeddi adroddiad sy’n nodi ddylech chi ddim rhoi alcohol i blant dan 15 oed oherwydd mae alcohol yn gallu gwneud niwed i’w hiechyd.

Mae’r wefan wedi’i rhannu i ddwy ran - un ar gyfer rhieni ac un ar gyfer plant. Mae’r wefan ar gyfer unrhyw riant sydd eisiau trafod alcohol gyda’u plant - dydyn ni ddim yn dweud bod yfed alcohol yn dderbyniol ai peidio, dim ond bod rhai pethau gwerth eu trafod.

At ei gilydd, mae’r adran ar gyfer pobl ifainc wedi’i hanelu at bobl ifainc 11-13 oed. Rydyn ni wedi cadw hi’n fyr o fwriad oherwydd mae’r rhan fwyaf o bethau diddorol i’w cael trwy ddolennau cyswllt ond yn hytrach na dod o hyd i wybodaeth ar y we ein nod ni ydy ceisio cael pobl ifainc i drafod alcohol a’r peryglon sydd ynghlwm â’r peth efo’u rhieni.

Os oes gyda chi unrhyw awgrymiadau am yr hyn mae modd inni’i gynnwys ar y wefan yma, cysylltwch â contact@substancemisuserct.co.uk

Cyngor ar gyfer Oedolion

I rieni sy eisiau siariad a’u phlant
am alcohol.

Click Here

Cyngor ar gyfer Plant

Blant sy’n chwilio am mwy o
wybodaeth am alcohol.

Click Here