English | Welsh
I rieni sy eisiau siarad â’u phlant am alcohol.
Siarad â Phlant – pan siaradon ni â phlant roedden nhw eisiau cael gwybod rhagor o fanylion am alcohol – gall cyflwyno cardiau dilema a ffeithiau fod yn ffordd dda o wneud hynny – dywedon nhw i bennu amser da i gael sgwrs, efallai ar ôl opera sebon ar y teledu neu yn ystod taith yn y car – ond chi sy’n adnabod eich plant orau
Rwyt ti a dy ffrindiau yn dod ar draws merch ifanc ar wastad ei chefn yn y parc. Roeddet ti a dy ffrindiau wedi cael gwybod yn gynharach bod y ferch wedi meddwi.
Mae disgybl yn yr ysgol yn dod â photel llawn ‘jochiau’ i mewn i'r ysgol ac yn cynnig peth iti. Dwyt ti ddim yn hollol siwr beth yw e.
Mae dy ffrind gorau yn isel iawn. Mae hi’n dweud pan bod ei Mam yn yfed mae hi’n gas ati hi ac yn dweud pethau ofnadwy. Dwyt ti ddim yn siwr os ydy dy ffrind yn dweud y stori cyfan wrthot ti.
Rwyt ti’n mynd i’r parc i gwrdd â dy ffrindiau ond ar dy ffordd yna rwyt ti’n dod ar draws cylch o bobl ifainc sy ychydig yn hyn na ti ond rwyt ti’n eu hadnabod. Mae un ohonyn nhw’n cynnig fodca iti.
Rwyt ti’n sylwi bod dy ffrind yn yfed llawer ac yn colli’r ysgol. Mae e hefyd yn gwneud rhai pethau a allai fod yn beryglus.


